Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (10) |
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 5 a 10 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 7 a 8 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.
14.23
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.
3. Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso Aled Roberts - WEDI'I OHIRIO TAN 6 GORFFENNAF 2011
4. Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso John Dixon - WEDI'I OHIRIO TAN 6 GORFFENNAF 2011
15.15
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
NDM4770 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfnod canol (8-13 oed) er mwyn integreiddio’r system ysgol ac i bontio’r gagendor rhwng y Cyfnod Sylfaen a’r Llwybrau Dysgu 14-19.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer plant 8-13 oed gyda’r nod o sicrhau bod y cyfraddau presennol ar gyfer anllythrennedd ac anrhifogrwydd ymhlith plant sy’n gadael ysgol gynradd yn cael eu haneru erbyn 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r cyfnod canol hwn wella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn, cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd rhwng addysgu academaidd a bugeiliol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
11 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwgio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, nid yw’r cynnig wedi ei gymeradwyo.
16.11
6. Dadl Plaid Cymru
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
NDM4771 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ymgynghoriad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ‘A Communications Review for the Digital Age’, gan gynnwys ei bwyslais ar ddadreoleiddio a’r goblygiadau o ran comisiynu rhanbarthol a’r cyfryngau ehangach yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymateb.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
16.54
7. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
NDM4772 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy:
a) cyflwyno premiwm disgybl er mwyn targedu arian at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, gan helpu i gau'r bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr;
b) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, a gaiff ei chyllido drwy gael gwared ar Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a thrwy wella prosesau cynllunio’r gweithlu;
c) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol;
d) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth briodol ar gyfer cyrff llywodraethu, ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer dalgylchoedd; ac
e) gwella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli’r partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn, cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd rhwng addysgu academaidd a bugeiliol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
48 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Mynwy)
Dileu is-bwyntiau b) i e) a rhoi is-bwyntiau newydd yn eu lle:
Gweithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru yn fanwl ar gyfer gwella safonau llythrennedd a monitro canlyniadau’r cynlluniau hynny;
Darparu cwricwlwm cenedlaethol cyflawn i gynnwys amser ar gyfer chwaraeon, economeg y cartref a sgiliau bywyd; a
Datblygu cam canol mewn addysg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
8 |
32 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt b), dileu popeth ar ôl ‘datblygiad proffesiynol parhaus’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt d), dileu ‘Gorchymyn adolygiad annibynnol llawn’ a rhoi ‘Cynnal adolygiad’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
43 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt e).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4772 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy:
a) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus;
b) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol;
c) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth briodol ar gyfer cyrff llywodraethu, ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer dalgylchoedd; ac
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
17.38
Cyfnod pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.45.
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011